|
Mae ei werth fel ateb i weithwyr wedi golygu bod technegwyr mynediad rhaffau wedi ymgymryd â phob math o waith, o rigiau olew môr y gogledd i rai o adeiladau hanesyddol pwysicaf gwledydd Prydain.
Manteision defnyddio mynediad rhaffau:
- Mae timau mynediad rhaffau yn darparu ffordd ddiogel i ymgymryd â gwaith
- Ychydig iawn o aflonyddu at y cyhoedd, trigolion adeiladau a'r amgylchedd
- Mwy o diogelwch safle gan y cedwir yr holl offer dros nos
Prif nodweddion mynediad rhaffau ar waith yw:
- Bydd y technegydd rhaffau bob amser yn defnyddio dwy raff wrth weithio - rhaff weithio a rhaff ddiogelwch
- Mae gan bob rhaff bwynt angori ar wahân
- Mae'n ofynol cael o leiaf dau dechnegydd ar gyfer unrhyw waith
- I rwystro gollwng yn ddamweiniol, caiff pob twlsyn ei fachu i gortyn y gweithiwr. Caiff offer mwy eu system raffau eu hunain
- Caiff yr holl offer eu harchwilio a'u cynnal a chadw yn rheolaidd
- Asesir ein holl dechnegwyr yn annibynnol
Mae Gwynedd Property Solutions yn gweithio yn ôl canllawiau IRATA arnodwyd y canllawiau hyn gan adran weithredol iechyd a diogelwch.
Rydym yn cydymffurfio'n llawn â:
- chanllawiau IRATA
- gofynion cyffredinol IRATA
- Rheoliadau gweithio ar uchder 2005
- LOLER rheoliadau 1998
- Safon Brydeinig BS 7985:2002
Mae Gwynedd Property Solutions yn defnyddio technegwyr mynediad a chrefftwyr profiadol o safon uchel yn unig. Mae ein holl dechnegwyr yn gyfarwydd â chynllunio diogelwch, asesu risg a datganiadau dull. |