Amdanom Ni
Mae Gwynedd Property Solutions yn fusnes teuluol wedi ei leoli ym mhentref Trefor ar gyrion Llyn yng Ngogledd Cymru. Mae gennym 25 mlynedd o brofiad yn y diwydiant adeiladu. Rydym yn amcanu at ddefnyddio cyflenwyr lleol gymaint â phosibl, cyn belled ag y gallant ateb y gofynion a'u bod yn gystadleuol.
Byddwn yn darparu amcanbrisiau eglur a chynhwysfawr i sicrhau bod y cwsmer yn deall beth a gaiff am ei arian. Rydym yn ymfalchio mewn:
- Rhoi gwasanaeth proffesiynol, gwaith o safon a gwerth am arian
- Bod yn gyflogwr cyfrifol ym mhob ystyr
- Bod yn onest a gweithgar
- Rhoi i'n cwsmeriaid wasanaeth dibynadwy ac o safon uchel cyson
- Bod yn ymrwymedig i roi i'n cwsmeriaid wasanaeth o'r safon uchaf trwy gwblhau gwaith yn brydlon ac i'r safon uchaf posibl
- Adeiladu yn unol â gofynion safonau priodol a chodau ymarfer
- Cydymffurfio â'r holl weithdrefnau iechyd a diogelwch a deddfwriaethau cyfredol
- Cydweithio â phenseiri, peirianyddion neu awdurdod lleol ar eich rhan
- Cwblhau unrhyw gontract i safon uchel gyda cyn lleied â phosibl o anghyfleuster
- Gwarantu'n holl waith
- Cyflogi gweithwyr proffesiynnol yn y diwydiant
- Mae ein hatebolrwydd cyhoeddus yn £5m, a'n hatebolrwydd gweithwyr yn £10m.
IECHYD A DIOGELWCH
Gall safle adeiladu fod yn llawn peryglon posibl; rydym yn amcanu at gadw'n safleoedd yn lân a thaclus bob amser i osgoi damweiniau neu anafiadau.
|